Adroddiad Blynyddol 2022/23

03 Tachwedd 2023

Dyma gyflwyno adroddiad blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gwynedd a Môn ar gyfer 2022-23. Y flwyddyn hon oedd blwyddyn olaf ein Cynllun Llesiant 2018-23. 

Yn yr adroddiad hwn, byddwn yn adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni gennym fel Bwrdd i wella llesiant ein cymunedau yn ystod cyfnod 2022-23.

Wrth edrych yn ôl dros 2022-23 mae delio ag argyfwng Covid-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i’n cymunedau gan y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, a phwysigrwydd y cydweithio rhyngddynt. Yn ogystal, mae’r argyfwng wedi amlygu materion presennol, e.e. costau byw, iechyd meddwl, gwydnwch cymunedol, gordwristiaeth, ail gartrefi, a bygythiadau i’r iaith Gymraeg.

Yn ystod Haf 2023 rydym yn edrych ymlaen at lansio ein Cynllun Llesiant ar gyfer y cyfnod 2023-28 ac yn ffyddiog bod yr amcanion llesiant sydd wedi’u blaenoriaethu gennym yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu a sut byddwn ni fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn medru cydweithio wrth wneud hynny.

Aled Jones-Griffith

Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai 

Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn

Yn ôl i Newyddion

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...