Beth yw’r camau nesaf?
Gyda'r Cynllun Llesiant yn ei le, mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoddus wedi sefydlu 4 is-grŵp i arwain ar wahanol flaenoriaethau'r cynllun. Mae aelod o'r Bwrdd yn arwain bob is-grwp, gyda'r aelodau ehangach yn cynnwys cynrychiolaeth o bartneriaid perthnasol y Bwrdd.
Mae'r 4 is-grŵp yn arwain ar amrywiol feysydd fel a ganlyn: Iechyd a Gofal Integredig, Cartrefi i Bobl Leol, Newid Hinsawdd a'r Gymraeg. Ar hyn o bryd, does dim is-grŵp yn arwain ar y flaenoriaeth o leihau effeithiau tlodi ar ein cymunedau. Mae hyn oherwydd bod Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn eisoes yn gwneud llawer o waith yn y maes hwn, ac felly yn hytrach na sefydlu is-grŵp arall bydd y Bwrdd yn cymryd cyfleon i gefnogi'r gwaith hwnnw fel sy'n briodol.