Asesiad Llesiant - 2022

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn wedi rhannu’r ddwy sir yn 14 o ardaloedd llai ac wedi cynnal gwaith ymchwil ar yr ardaloedd hynny er mwyn deall yn well yr anghenion llesiant. Mae gwaith ymchwil wedi cael ei wneud ar ran y Bwrdd ar bob un o’r 14 ardal er mwyn deall a dysgu mwy am lesiant yr ardaloedd hynny. Yn ogystal â’r data sydd ar gael rydym hefyd eisiau gwybod beth rydych chi yn feddwl am eich ardal a’ch cymuned. Mae partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymgysylltu’n helaeth efo’n cymunedau yn ystod y misoedd diwethaf ac rydym yn cymryd i ystyriaeth canfyddiadau’r sesiynau hynny a’r prif negeseuon sydd wedi eu cyfleu am gyflwr llesiant ein cymunedau. 

Rhwng Ionawr a Mawrth 2022 cynhaliwyd ymgynghoriad ar y llyfrynnau drafft. Hoffai'r Bwrdd ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan ac rydym wedi defnyddio eich sylwadau er mwyn ail-edrych ar y dogfennau i wneud yn siŵr eu bod yn adlewyrchu llesiant ardaloedd Gwynedd a Môn.

Mae dau Asesiadau sirol bellach wedi eu creu a'u cyhoeddi ac byddent yn helpu'r Bwrdd i gynllunio ei flaenoriaethau am y 5 mlynedd nesaf.

I weld yr Asesiadau Llesiant ewch i:

                             

          Gwynedd                                                  Ynys Môn

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...