Amdanom Ni

Pwrpas y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd trwy gryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus statudol sydd wedi disodli’r Byrddau Gwasanaethau Lleol. Bydd pob bwrdd yn:

  • Asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal
  • Gosod amcanion sydd wedi’u llunio i sicrhau bod y Byrddau’n gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i lesiant lleol

Mae’n rhaid i bob Bwrdd baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi ei amcanion a’r camau y bydd yn eu cymryd i gyrraedd yr amcanion – dyma’r Cynllun Llesiant Lleol. Mae’n rhaid i’r Bwrdd ymgynghori yn eang wrth ddatblygu’r cynllun hwn.

Bydd pob Bwrdd yn adolygu’i gynllun yn flynyddol gan ddangos ei gynnydd.

Aelodaeth

Aelodau statudol pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw:

  • Yr Awdurdodau Lleol 
  • Y Bwrdd Iechyd Lleol
  • Yr Awdurdod Tân ac Achub
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn ogystal â’r aelodau statudol, bydd pob Bwrdd yn gwahodd y bobl ganlynol i gymryd rhan:

  • Gweinidogion Cymru
  • Prif Gwnstabliaid
  • Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Gwasanaethau Prawf Penodol
  • O leiaf un corff sy’n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol

Bydd y Byrddau hefyd yn gallu gwahodd sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill i gymryd rhan.

Yma, yng Ngwynedd a Môn, rydym wedi gwahodd cynrychiolaeth o Awdurdod y Parc Cenedlaethol Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y sector dai a'r sectorau addysg bellach ac uwch.

Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor yw Cadeirydd presennol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, gyda'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd yn is-gadeirydd.

Dyma restr o aelodau presennol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn:

Statudol

Dafydd Gibbard Dafydd Gibbard Cyngor Gwynedd
Prif Weithredwr
Dylan Williams Dylan Williams Cyngor Sir Ynys Môn
Prif Weithredwr
Dyfrig Siencyn (Y Cynghorydd) Dyfrig Siencyn (Y Cynghorydd) Cyngor Gwynedd
Arweinydd Cyngor Gwynedd
Llinos Medi (Y Cynghorydd) Llinos Medi (Y Cynghorydd) Cyngor Sir Ynys Môn
Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
Ffion Johnstone Ffion Johnstone Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyfarwyddwr Ardal Gorllewinol
Martin Cox Martin Cox Cyfoeth Naturiol Cymru
Pennaeth Gweithrediadau y Gogledd Orllewin
Tracey Williams / Stewart Forshaw Tracey Williams / Stewart Forshaw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
*

Gwadd

Aled Jones-Griffith (Cadeirydd y Bwrdd) Aled Jones-Griffith (Cadeirydd y Bwrdd) Grŵp Llandrillo Menai
Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor
Llinos Davies Llinos Davies Heddlu Gogledd Cymru
*
Sarah Andrews / Dafydd Gwynne Sarah Andrews / Dafydd Gwynne Iechyd Cyhoeddus Cymru
Prif Swyddog Cynorthwyol
Bethan Russell Williams (Cynrychiolydd y 3ydd sector) Bethan Russell Williams (Cynrychiolydd y 3ydd sector) Mantell Gwynedd
Prif Swyddog
Glyn Jones Glyn Jones Llywodraeth Cymru
*
Andy Jones Andy Jones Gwasanaeth Prawf Cymru
Uwch Swyddog Prawf
Sian Purcell Sian Purcell Medrwn Môn
Prif Swyddog
Yr Athro Andrew Edwards Yr Athro Andrew Edwards Prifysgol Bangor
Dirprwy Is-ganghellor
Mel Evans (Cynrychiolydd y Sector Dai) Mel Evans (Cynrychiolydd y Sector Dai) Grŵp Cynefin
Prif Weithredwr
Emyr Williams Emyr Williams Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Prif Weithredwr

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...