Cynllun Llesiant Lleol

Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn

Mae gennym weledigaeth i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein cymunedau yn ffynnu ac yn llewyrchus i’r hir dymor. Nod y Cynllun Llesiant yw amlinellu sut yr ydym am gyflawni hyn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion Gwynedd a Môn.  Fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus byddwn yn cydweithio i gyflawni uchelgais cyffredin ar gyfer y rhanbarth cyfan. 

Bydd y sefydliadau unigol yn parhau i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau fydd yn cyflawni eu hamcanion llesiant unigol yn ogystal â chyfrannu at amcanion llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae ymgysylltu gyda chymunedau yn greiddiol i lwyddiant y cynllun, ac mae’r Bwrdd yn ymrwymo i ddarparu arweiniad clir er mwyn cyrraedd ei amcanion.

Mae gennym gymunedau cryf a balch gyda thraddodiad o helpu’n gilydd a chydweithio. Bydd rôl y cymunedau hyn yn ganolog wrth gyflawni’r amcanion llesiant sydd wedi eu nodi yn y cynllun hwn. 

Dylai'r amcanion a'r camau i'w cyflawni, ar ôl eu cwblhau, gysylltu a chefnogi ei gilydd oherwydd natur drawsbynciol yr amcanion. Dylai pob aelod o'r Bwrdd allu chwarae eu rhan yn llawn wrth gyflawni'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y cynllun.

I ddarllen ein cynllun llesiant ar gyfer 2023-2028 gweler y linc isod.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...