Beth sydd mor dda am eich ardal chi? (Gwynedd)

25 Tachwedd 2016

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn gofyn i bobl leol pam maen nhw yn hoffi’r ardal y maen nhw’n byw ynddi mewn ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd. Mae cyfle hefyd iddynt ddweud eu dweud am yr hyn sydd angen ei wella am yr ardal.

Mae ail gyfres o sesiynau galw heibio yn cael ei chynnal yn ardal Meirionnydd ble gall trigolion gyfrannu at yr ymgynghoriad i helpu darparwyr gwasanaethau cyhoeddus gynllunio i’r dyfodol. Mae sesiynau eisoes wedi eu cynnal yn Nhywyn, Dolgellau a Dinas Mawddwy. Yn ogystal â galw i mewn i un o’r sesiynau mae’n bosib cwblhau holiadur ar-lein yn www.LlesiantGwyneddaMon.org/cy/. Mae dros 500 wedi dweud eu dweud ar-lein yn barod.

Ffurfiwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn ddiweddar yn dilyn pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a ddaeth i rym ar y 1af o Ebrill 2016. Mae’r Bwrdd yn bartneriaeth sy’n cynnwys y cynghorau sir, y gwasanaeth tân ac achub, gwasanaeth iechyd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r ddeddf newydd am sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio efo’i gilydd i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cymunedau ar draws Cymru.

Ffion Johnson, yw cadeirydd y Bwrdd yng Ngwynedd a Môn, dywedodd: “Byddwn yn annog trigolion yr ardal i wneud yn fawr o’r cyfle yma i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Bydd yn rhoi darlun gwell i ni o beth sy’n bwysig i bobl a beth fyddent yn hoffi weld yn cael ei wella. Mae’n gyfle go iawn i bobl ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus.”

Mae’r sesiynau glaw heibio yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

06.12.16 2-4pm Blaenau Ffestiniog: Tan y Maen, Heol yr Eglwys
06.12.16 7-9pm Trawsfynydd: Neuadd Gyhoeddus
08.12.16 2-4pm Llanuwchllyn: Yr Hen Feddygfa
08.12.16 7-9pm Y Bala: Neuadd Buddug

Mae’r cyfnod ymgynghori yn rhedeg tan y 31 o Ragfyr 2016. Bydd yr adborth sydd wedi ei gasglu o’r gwahanol ardaloedd yn rhoi darlun i’r Bwrdd o gyflwr cymunedau, eu blaenoriaethau a sut y gall partneriaid gyd-weithio i gynllunio gwasanaethau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd: www.facebook.com/LlesiantGwynedd&MonWell-being a www.Twitter.com/LlesiantGaM.

Gwybodaeth i olygyddion
Aelodau statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru.

Yn ôl i Newyddion

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...