Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn 2023 - Cyfle i ddweud eich dweud

20 Rhagfyr 2022

Croeso i ymgynghoriad ar ddrafft ail Gynllun Llesiant Gwynedd a Môn wedi ei baratoi gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer y ddwy sir. Pwrpas y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd trwy gryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus statudol ar draws Cymru. Mae’n rhaid i bob Bwrdd baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi ei amcanion a’r camau y bydd yn eu cymryd i gyrraedd yr amcanion a elwir yn Gynllun Llesiant. Mae’n rhaid i’r Bwrdd ymgynghori yn eang wrth ddatblygu’r cynllun hwn.

Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod a ydych chi’n credu y bydd y cynlluniau sydd gennym ni’n helpu i wneud pethau'n well i chi a'ch cymuned. Hoffem hefyd wybod a oes gennych chi unrhyw syniadau eraill am sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd er budd ein cymunedau.

Bydd angen i chi gyfeirio at y ddogfen Cynllun Llesiant Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn 2023-28 wrth ymateb i’r holiadur hwn

Rhaid llenwi'r holiadur cyn 6 Mawrth 2023.

Holiadur Cynllun Llesiant Drafft 2023-2028

 

Yn ôl i Newyddion

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...