Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn - cyfle i ddweud eich dweud

23 Ionawr 2018

Mae pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Llesiant Drafft sy’n anelu i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn – sy’n dwyn ynghyd nifer o gyrff statudol yn lleol - wedi rhannu'r ardal gyfan yn 14 o ardaloedd llai ar gyfer Asesiad o Lesiant Lleol. Mae gwaith ymchwil manwl wedi ei gynnal ar bob un o'r 14 ardal er mwyn deall a dysgu mwy am lesiant yr ardaloedd hynny.

Mae’r cynllun drafft sydd wedi ei baratoi yn seiliedig ar y gwaith yma ac mae’n ceisio cyflawni newidiadau cadarnhaol i sicrhau’r dyfodol gorau posib i gymunedau ar draws y ddwy sir yn unol â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Meddai Ffion Johnstone o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn:

“Ein nod fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ydi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion gan sicrhau bod darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio i gyflawni uchelgais ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.

“Bydd rol cymunedau lleol yn ganolog wrth gyflawni’r amcanion llesiant sydd wedi eu gosod yn y cynllun. Felly, rydan ni’n awyddus iawn fod barn pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn cael ei ymgorffori wrth i ni osod yr amcanion gorau posib er mwyn gallu gwella llesiant ein trigolion.

“Byddem felly yn annog trigolion i gymryd y cyfle i fwrw golwg ar y cynllun drafft a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Bydd yr holl sylwadau yn cael eu hystyried wrth i ni benderfynu ar y cynllun terfynol.”

I ddweud eich dweud ar y cynllun, gallwch lenwi’r holiadur ar-lein ar www.llesiantgwyneddamon.org/cy/Cynllun-Llesiant neu mae copïau papur ar gael yng nghanolfannau hamdden a llyfrgelloedd Gwynedd ac Ynys Môn. Mae’r arolwg ar agor tan 30 Mawrth 2018.

NODIADAU:
- Fe gafodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ei ffurfio yn dilyn pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016.
- Mae’r Bwrdd yn bartneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Gwynedd, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Oriel Lluniau

Cynllun Drafft
Yn ôl i Newyddion

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...