Swyddi a chartrefi i bobl ifanc

23 Mawrth 2017

Creu gwell dyfodol i bobl ifanc – dyma un o flaenoriaethau pobl Gwynedd a Môn yn ôl adroddiad drafft  sydd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn. 

Mae cyhoeddi’r adroddiad yn dilyn cyfnod ymgynghori ddiwedd 2016 – pan gafodd trigolion yr ardal gyfle mewn sesiynau galw-heibio a holiadur ar-lein i ddweud beth oeddent yn ei hoffi am eu hardal a beth oeddent am ei wella. Roedd creu swyddi a chartrefi o safon i bobl ifanc yn bwysig i bobl, yn ogystal â gwarchod y Gymraeg, gwella iechyd, a diogelu’r amgylchedd naturiol.

Ffurfiwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn dilyn pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae’r Bwrdd yn bartneriaeth sy’n cynnwys y cynghorau sir, y gwasanaeth tân ac achub, gwasanaeth iechyd a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bwriad y Bwrdd yw defnyddio casgliadau’r ymgynghoriad a’r ymchwil yma i greu cynllun llesiant ar gyfer Gwynedd a Môn.

Dywedodd Ffion Johnstone, Cadeirydd y Bwrdd: “Rydym yn awyddus i gael barn pobl ar yr adroddiad drafft cyn i ni gyhoeddi’r fersiwn terfynol ddiwedd Ebrill. Rydym am wybod os yw trigolion yn teimlo bod yr wybodaeth rydym wedi ei gasglu a’i gynnwys yn adlewyrchiad teg o’u cymunedau. Yn y pen draw byddwn yn defnyddio’r asesiad i greu cynllun llesiant ar gyfer yr ardal, felly mae’n holl bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn.”

Mae’r adroddiad drafft llawn a holiadur byr i’w cael yn www.LlesiantGwyneddaMon.org/cy/.  

Mae’r cyfnod ymgynghori diweddaraf yma yn rhedeg tan y 13eg o Ebrill 2017. Bydd yr adborth sydd wedi ei gasglu o’r holiaduron a’r gweithdai yn rhoi darlun cliriach i’r Bwrdd o gyflwr cymunedau, a’u blaenoriaethau a sut y gall partneriaid gyd-weithio i gynllunio gwasanaethau i’r dyfodol. Bydd cyfle i’r cyhoedd ac amrywiol grwpiau gyfrannu i’r gwaith yma unwaith eto yn ystod yr haf.

Gwybodaeth i olygyddion
Aelodau statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd:
www.facebook.com/LlesiantGwynedd&MonWell-being a www.Twitter.com/LlesiantGaM.

Yn ôl i Newyddion

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...